Grwpiau Arweinyddol y Disgyblion – Pupil Leadership Groups
Nôd y grwpiau Arweinyddol y Disgyblion yw rhoi cyfle i blant i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth o fewn yr ysgol, gan sicrhau bod eu lleisiau, eu safbwyntiau a’u barn yn cael eu clywed. Rydym yn gwerthfawrogi derbyn llais y disgybl i wneud gwelliannau. Felly, rhown gyfle i’r plant gynorthwyo gyda’r gwelliannau hynny ar hyd y daith.
Rydym yn gwerthfawrogi gwaith ein harweinwyr yn llwyr, gan ei ddefnyddio i lunio’r addysgu a’r dysgu sy’n digwydd yn ein hysgol. Rydym yn mowldio arweinwyr y dyfodol, yn barod am waith, yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.
Mae ein disgyblion yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o grwpiau gan gynnwys Cyngor Ysgol, Pwyllgor Eco, Heddlu Bach, Arweinwyr Digidol, Cyfeillion Caredig, Criw Cymraeg, a’r Tîm Iechyd a Lles.
Mi fydd mwy o wybodaeth am bob grwp ar safwe’r ysgol cyn hir.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
The aim of the Pupil Leadership Groups is to enable children the chance to develop leadership skills within the school, ensuring that their voices, views and opinions are heard. We value receiving pupil voice to make improvements. Therefore, we give the children the opportunity to assist with those improvements along the journey.
We whole-heartedly value the work of our pupil leaders, using it to shape the teaching and learning that happens at our school. We are moulding leaders of the future, ready for work, ready to be citizens of Wales and the world.
Our pupils have the opportunity to participate in many groups including School Council, Eco Committee, Mini Police, Digi-leaders, Playground Pals, Criw Cymraeg, and the Health and Wellbeing Team.
Cyngor Ysgol – School Council
Mae’r Cyngor Ysgol wedi bod wrthi yn gweithio tuag at helpu rhoi llais i blant Ifor Hael. Rydym yn barod i glywed barnau plant am faterion ysgol a helpu pawb i ddysgu mwy am hawliau plant. Rydym wedi yn brysur yn cynllunio ‘Cystadleuaeth Plant Mewn Angen’, ‘Sialens Iechyd Meddwl Plant’ a holiadur disgyblion, cymryd rhan mewn sesiwn addysg ar-lein gyda’r Senedd ar sut i fod yn Ddinesydd Brwd a mwy!
The School Council have been working towards helping give the children of Ifor Hael a voice. We are ready to hear children’s opinions on school matters and help everybody to learn more about children’s rights. We have been busy designing a ‘Children in Need Competition’, ‘Children’s Mental Health Challenge’, a pupil questionnaire, taking part in an online education session with the Senedd on how to be an Active Citizen and more!
Pwyllgor Eco – Eco Committee
Helo, ni yw Pwyllgor Eco Ysgol Gymraeg Ifor Hael. Yr athrawon sy’n ein helpu yw Mrs Rickus a Mr Herrity. Pwrpas y Pwyllgor Eco yw i helpu’r byd, cymuned a’r ysgol i fod yn fwy eco-gyfeillgar ac i ddysgu pobl eraill sut i helpu hefyd.
I ddechrau gwnaethom arolwg o’r amgylchfyd i weld beth rydyn ni’n gwneud i helpu’r byd yn barod a sut allwn wneud mwy. Er enghraifft gallwn helpu trwy ddiffodd y goleuadau pan nad ydym yn eu defnyddio, troi’r tapiau i ffwrdd gan sicrhau nad ydynt yn diferu a diffodd injan y car wrth aros tu allan i’r ysgol.
Mae gennym lawer o syniadau newydd i wneud yr ysgol yn fwy eco-gyfeillgar ac edrychwn ymlaen at glywed syniadau pobl eraill trwy gydol y flwyddyn.
Dyma luniau ohonom yn plannu coed ffrwythau ar safle’r ysgol. Byddwn yn trefnu nifer o gyfleoedd dysgu yn yr awyr agored i bawb yn ystod y flwyddyn!
Hello, we are the Eco Committee of Ysgol Gymraeg Ifor Hael. The teachers who help us are Mrs Rickus and Mr Herrity. The purpose of the Eco Committee is to help the world, community and school become more eco-friendly and to teach other people how to help as well.
Initially we surveyed the environment to see what we are already doing to help the world and how we can do more. For example, we can help by turning off the lights when we are not using them, turning off the taps making sure they do not leak and turning off the car’s engine while waiting outside the school.
We have lots of new ideas to make the school more eco-friendly and look forward to hearing other people’s ideas throughout the year.
Here are some photos of us planting fruit trees on the school site. We will be organising a number of outdoor learning opportunities for everyone during the year!
Heddlu Bach – Mini Police
Helo, yr Heddlu Bach ydyn ni. Rydyn ni’n gweithio gyda Heddlu Gwent. Mae bod yn rhan o’r Heddlu Bach yn helpu Heddlu Gwent i:
- ysbrydoli ffydd a hyder o fewn y gymuned
- helpu i amddiffyn, diogelu a cysuro pobl sydd yn agor i niwed
- cyfathrebu ein neges i’r gymuned
- gweithio gyda asiantaethau arall yn ein ardal
- helpu pobl ifanc i ddeall beth sydd yn gywir neu’n anghywir
- addysgu eraill am ein gwaith
Dyma rhai o’r pethau rydyn ni’n gallu gwneud fel Heddlu Bach:
- Helpu gyda parcio tu allan i’r ysgol
- Codi ymwybyddiaeth ac atal troseddu
- Monitro cyflymder ceir ar y ffyrdd
- Codi ymwybyddiaeth am ymddygiad anghymdeithasol
- Helpu atal difrod a sbwriel yn y gymdeithas
- Gweithgareddau tîm rhwng disgyblion
- Dysgu cymorth cyntaf
Hello, we’re the Mini Police. We work with Gwent Police. Being part of the Mini Police helps Gwent Police to:
- inspire faith and confidence within the community
- help protect, protect and comfort vulnerable people
- communicating our message to the community
- working with other agencies in our area
- help young people understand what is right or wrong
- educate others about our work
Here are some things we can do as Mini Police:
- Assist with parking outside the school
- Awareness raising and crime prevention
- Monitor car speeds on roads
- Raise awareness of anti-social behaviour
- Help prevent damage and litter in society
- Team activities between pupils
- Learn first aid
Arweinwyr Digidol – Digi-Leaders
Helo! Ni yw’r arweinwyr digidol. Ni sy’n gyfrifol am dechnoleg ar draws yr ysgol gyda Miss Reid a rydyn ni’n gallu helpu os oes problem gyda offer digidol neu os oes angen help yn logio mewn a defnyddio offer codio. Ni sy’n gyfrifol hefyd am wneud yn siwr bod popeth wedi gwefrio a nol yn eu lle ar ddiwedd pob dydd, ac i gadw cofnod o unrhywbeth sydd wedi torri yn y dosbarthiadau. Os oes angen unrhyw gymorth, dewch i ofyn!
Hello! We are the digital leaders. We’re responsible for technology throughout the school with Miss Reid and can help if there is a problem with digital equipment or if you need help logging in or using coding equipment. We are also responsible for making sure everything is back in place at the end of each day, and to keep a record of anything broken in classes. If you ever need any help, all you have to do is ask!
Cyfeillion Caredig – Playground Pals
Mae’r Cyfeillion Caredig yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol. Mae plant yn gwirfoddoli, derbyn pleidlais ac yn cael eu hyfforddi i fod yn “Gyfaill” ac yn gwneud ymrwymiad i helpu i annog amser chwarae’r plant i fod yn un hapus ac yn gymdeithasol. Byddant yn bwynt cyswllt ar gyfer plant yn ystod amser chwarae er mwyn helpu i annog gemau a datrys unrhyw fân bryderon.
The Playground Pals are an important part of school life. Children volunteer, voted for then trained to be a Playground Pal and make the commitment to help encourage happy and sociable playtimes. They will be a point of contact for children during breaks to help encourage games and sort out any minor concerns
Criw Cymraeg
Helo! Ni yw Criw Cymraeg yr ysgol. Mae cynrychiolwyr o flynyddoedd 2 – 6 yn rhan o’r criw. Rydym yn ceisio sicrhau bod pobl yn yr ysgol, ein teuluoedd a’r gymuned yn gwybod pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg i ni! Rydym yn helpu pobl i siarad Cymraeg yn yr ysgol trwy wobrwyo a gosod heriau i’n ffrindiau. Bydden ni’n gosod newyddion, heriau’r mis a syniadau ar ein dosbarthiadau ar lein o dan ffolder ‘Y Siarter Iaith’.
Hello! We are the Welsh Leaders of the school. There are representatives from years 2- 6 in our group. We try to make sure that everyone in school, at home and in the community knows how important the Welsh language is to us! We help people speak Welsh by rewarding them and setting challenges for the children and their families. We will be putting news, monthly challenges and good ideas on our online classrooms for you under ‘Y Siarter Iaith‘.
Tîm Iechyd a Lles – Health and Wellbeing Team
Helo! Ni yw’r Tîm Cadw’n iach gydag ychydig bach o help gan Mrs Tossell. Mae cadw’n iach yn bwysig! Rydyn ni eisiau i bawb gael bywyd hir, iach a hapus.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod plantos Ysgol Gymraeg Ifor Hael yn iach. Rydyn ni’n mynd i’ch helpu i ofalu am eich corff, calon a’ch ymennydd. Byddwn ni’n dangos i chi sut i gadw’n iach.
Rydyn ni’n cwrdd bob pythefnos i drafod syniadau a meddwl am heriau.
Eich her gyntaf yw “Her y bocs bwyd iachus.” Ewch i edrych ar Google Classrooms. Gallwch ennill sêr a gwobrau diri.
Hi! We are the Health and Well-being Team with a little help from Mrs Tossell. Staying healthy is important! We want everyone to have a long, healthy and happy life.
We want to make sure that the children of Ysgol Gymraeg Ifor Hael are healthy. We’re going to help you look after your body, mind and heart. We’ll show you how to stay healthy.
We meet fortnightly to discuss ideas and think of challenges.
Your first challenge is “The healthy lunchbox challenge.” Have a look at Google Classrooms. You can win stars and prizes.