Ein Cwricwlwm Llwybr Llwyddiant / Our Pathway to Success Curriculum

(Dyma’r fideo yn Gymraeg – https://www.youtube.com/watch?v=hJjUiPkJbLU)

Cwricwlwm newydd i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy’n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda’n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n cysylltu yn syth gyda gwerthoedd yr ysgol ac yn rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. 

Elfennau Allweddol:

Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:

  • 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
  • 3 cyfrifoldeb traws-gwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
  • camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
  • deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed,)
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).

Darllenwch mwy yma. Cymrwch olwg ar y Cwricwlwm yma.

Cwricwlwm newydd yng Ngymru: canllaw ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd.pdf

Dogfen am y Cwricwlwm newydd i rieni.pdf

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

A new curriculum for Wales

This is an exciting time for the young people of Wales. A new Curriculum for Wales is coming that will enthuse learners from 3 to 16, giving them the foundations they need to succeed in a changing world.

The 4 purposes will be at the heart of our new curriculum which link directly to our 4 core values. They will be the starting point for all decisions on the content and experiences developed as part of the curriculum to support our children and young people to be:

  • ambitious, capable learners ready to learn throughout their lives;
  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work;
  • ethical, informed citizens of Wales and the world;
  • healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Key elements

The new curriculum will include:

  • 6 Areas of Learning and Experience from 3 to 16;
  • 3 cross curriculum responsibilities: literacy, numeracy and digital competence;
  • progression reference points at ages 5, 8, 11, 14 and 16;
  • achievement outcomes which describe expected achievements at each progression reference point.

The curriculum will be organised into 6 Areas of Learning and Experience:

  • Expressive arts;
  • Health and well-being;
  • Humanities (including RE which should remain compulsory to age 16);
  • Languages, literacy and communication (including Welsh, which should remain compulsory to age 16, and modern foreign languages);
  • Mathematics and numeracy;
  • Science and technology (including computer science).

Read more here.  Take a look at the new Curriculum here.

A new Curriculum in Wales: a guide for children, young people and families.pdf

Curriculum for Wales guide for parents.pdf